Cael cymorth i drefnu cynhaliaeth plant

Bydd y gwasanaeth yma yn rhoi gwybodaeth i chi am y gwahanol opsiynau sydd ar gael i wneud trefniant cynhaliaeth plant. Yr opsiynau yw:

  • gwneud eich trefniant eich hun
  • defnyddio'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant

Ar ddiwedd y gwasanaeth yma, gallwch ddewis gwneud eich trefniant eich hun neu ddechrau cais cynhaliaeth plant newydd.

Cysylltwch gyda Child Maintenance Choices os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon

Dechrau nawr

Os ydych wedi defnyddio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant o’r blaen

Dylech roi gwybod am newid mewn amgylchiadau (agor mewn tab newydd) os ydych angen gwneud newid i’ch trefniant cynhaliaeth plant presennol.

Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth yma i ddarganfod sut y gallwch drefnu taliadau cynhaliaeth plant gyda rhiant gwahanol.

Nid wyf yn gwybod a oes gennyf drefniant cynhaliaeth plant yn barod
Mae angen i mi newid pa riant sy'n cael neu'n talu cynhaliaeth plant

Bydd angen i chi gau eich achos Cynhaliaeth Plant presennol ac agor un newydd.

Os mai chi oedd y ceisydd gwreiddiol, gallwch gau eich achos yn Fy achos cynhaliaeth plant (agor mewn tab newydd) , neu gallwch gysylltu gyda'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (agor mewn tab newydd).

Os nad chi oedd y ceisydd gwreiddio bydd angen i chi gysylltu gyda'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (agor mewn tab newydd).