Cael help i drefnu cynhaliaeth plant

Bydd y gwasanaeth yma yn rhoi gwybodaeth i chi am y gwahanol opsiynau sydd ar gael i wneud trefniant cynhaliaeth plant. Sef:

  • gwneud eich trefniant eich hun
  • defnyddio'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant

Cysylltwch gyda Child Maintenance Choices os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon

Defnyddio'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant

Os oes gennych achos gweithredol yn barod

Os oes gennych achos gyda'r un rhiant, dylech roi gwybod am newid i amgylchiadau yn lle gwneud trefniant newydd. Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth yma os ydych am sefydlu trefniant newydd gyda rhiant gwahanol.

Ffioedd

Os penderfynwch ddefnyddio'r Gwasanaeth Cyhaliaeth Plant, y ffi gwneud cais yw £20 ac ni ellir ei ad-dalu. Byddwch angen cerdyn debyd neu gerdyn credyd i'w dalu. Nid yw'n sicrhau trefniant.

Ni fydd rhaid i chi dalu'r ffi gwneud cais os:

  • ydych o dan 19 oed
  • ydych wedi dioddef o gam-drin domestig

Cael help os ydych wedi dioddef o gam-drin domestig

Os ydych yn poeni am gysylltu gyda'r rhiant arall

Os byddwch yn penderfynu defnyddio'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, byddwn yn ceisio cysylltu gyda'r rhiant arall ynglyn â sefydlu cynhaliaeth plant - nid oes angen i chi wneud hynny.

Byddwn yn rhannu'r manylion canlynol gyda'r rhiant arall:

  • eich enw
  • enw a dyddiad geni eich plentyn
  • nifer y diwrnodau y bydd eich plentyn yn aros gyda'r rhiant fydd yn gwneud taliadau cynhaliaeth - bydd angen i'r rhiant arall gadarnhau hyn

Os mai chi yw'r rhiant sy'n talu cynhaliaeth plant, byddwn yn rhannu'r manylion canlynol gyda'r rhiant arall hefyd:

  • eich gwybodaeth incwm
  • os bydd unrhyw blant ychwanegol wedi cael eu hystyried o fewn y cyfrifiad - ni fyddwn yn rhannu manylion adnabyddadwy ar gyfer y plant yma, dim ond faint sydd wedi cael eu ystyried
Ni fyddwn yn rhannu unrhyw wybodaeth arall gyda'r rhiant arall fel rhan o'ch cais.
Nid wyf yn gwybod os oes gennyf achos gweithredol
Rwyf angen newid o dalu cynhaliaeth plant i gael cynhaliaeth plant

Bydd angen i chi gau eich achos Cynhaliaeth Plant presennol ac agor un newydd.

Os mai chi oedd yr ceisydd gwreiddiol, gallwch gau eich achos yn Fy achos cynhaliaeth plant , neu gallwch cysylltu gyda’r gwasanaeth cynhaliaeth plant (yn agor mewn tab newydd).

Os nad chi oedd yr ymgeisydd gwreiddiol, bydd angen i chi gysylltu gyda chynhaliaeth plant (yn agor mewn tab newydd).

Rwyf angen newid o gael cynhaliaeth plant i dalu cynhaliaeth plant

Bydd angen i chi cau eich achos Cynhaliaeth Plant presennol ac agor un newydd.

Os mai chi oedd y ceisydd gwreiddiol, gallwch gau eich achos yn Fy achos cynhaliaeth plant , neu gallwch cysylltu gyda’r gwasanaeth cynhaliaeth plant (yn agor mewn tab newydd).

Os nad chi oedd yr ymgeisydd gwreiddiol, bydd angen i chi gysylltu gyda chynhaliaeth plant (yn agor mewn tab newydd).

Dechrau nawr