Ymateb i gais cynhaliaeth plant
Defnyddiwch y gwasanaeth yma os ydych wedi cael eich enwi mewn cais i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
Gallwch gadarnhau bod y wybodaeth a roddwyd i ni yn gywir a dweud wrthym am unrhyw beth arall a all effeithio ar faint o gynhaliaeth plant rydych yn ei dalu.
Cyn i chi ddechrau
Byddwch angen:
- eich rhif cyfeirnod - gallwch ddod o hyd iddo ar y llythyr a anfonwyd atoch am y cais yma
- eich Rhif Yswiriant Gwladol
- gwybodaeth am eich incwm neu fudd-daliadau
- manylion unrhyw blant rydych yn eu cynnal nad ydynt yn rhan o'r trefniant yma - er enghraifft, plentyn sy'n byw gyda chi neu blentyn sydd gennych gyda phartner gwahanol
- eich manylion banc
- slipiau cyflog
Mae angen i chi greu cyfrif i ddefnyddio'r gwasanaeth yma. Rhaid i chi gael cyfeiriad e-bost a bydd angen i chi sefydlu rhif PIN a chyfrinair cofiadwy fel y gallwch gael diweddariadau am y cais.
Dechrau nawr