Datganiad hygyrchedd ar gyfer y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Mae'r gwasanaeth yma yn rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae yna ddatganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer prif wefan GOV.UK.
Mae'r datganiad hwn yn berthnasol i'r gwasanaeth Gwneud cais am help i drefnu cynhaliaeth plant a'r gwasanaeth Ymateb i gais cynhaliaeth plant, sydd ar gael ynhttps://child-maintenance.service.gov.uk/apply/ and https://child-maintenance.service.gov.uk/apply/respond-to-a-child-maintenance-application.
Defnyddio'r Gwasanaeth yma
Mae'r gwasanaeth yma yn cael ei rheoli gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym am i gymaint o bobl â phosibl gallu defnyddio'r gwasanaeth yma. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- Newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- Chwyddo mewn hyd at 300% heb i'r testun syrthio oddi ar y sgrin
- Cael o ddechrau'r gwasanaeth i'r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- Cael o ddechrau'r gwasanaeth i'r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- Gwrando ar y gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o Jaws, NVDA a Voiceover)
Rydym hefyd wedi gwneud y testun yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Adborth a gwybodaeth cyswllt
Contact the Child Maintenance Service if you:
- angen help
- angen gwybodaeth o’r gwefan yma mewn fformat gwahanol fel print bras, recordiad sain neu braille
- darganfod unrhyw broblemau hygyrchedd ar y wefan yma
Gweithdrefn gorfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi'r Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) Rheoliadau Hygyrchedd 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Chomisiwn Cydraddoldeb ar gyfer Gogledd Iwerddon (ECNI).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth yma
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth yma yn hygyrch, yn unol â Chyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) Rheoliadau Hygyrchedd 2018.
Mae'r gwasanaeth yma yn cydymffurfio'n llawn â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 Safon AA.
Darparu'r datganiad hygyrchedd yma
Mae'r datganiad yma wedi cael ei ddarparu ar 11 Awst 2026. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 11 Awst 2026.
Profwyd y wefan yma ddiwethaf ar 22 Mai 2024. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol a gwiriwyd am gydymffurfio â WCAG 2.2AA.