Gwneud cais am help i drefnu cynhaliaeth plant
Defnyddio'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i drefnu cytundeb cynhaliaeth plant os na allwch chi a'r rhiant arall gytuno ar un eich hunan.
Os nad chi yw rhiant biolegol neu fabwysiadol y plentyn, neu os yw eich plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol, mae angen i chi, cysylltu gyda’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (agor mewn tab newydd).
Cyn i chi ddechrau
Byddwch angen:
- eich rhif cyfeirnod unigryw – efallai i chi gael hwn mewn ebost neu neges destun. Os nad oes gennych un, gallwch wneud cais amdano Cael Help i Drefnu Cynhaliaeth Plant
- eich Rhif Yswiriant Gwladol
- enw’r rhiant arall a chymaint o wybodaeth ag y gwyddoch amdanynt, er enghraifft, lle maent yn byw neu ei rif ffôn
- cyfeiriad e-bost – mae angen i chi greu cyfrif er mwyn defnyddio’r gwasanaeth yma
Fel arfer caiff eich cais ei brosesu'n gyflymach os byddwch chi neu'r rhiant arall yn hawlio budd-dal plant.
Dechrau nawrOs ydych yn pryderu am gysylltu gyda'r rhiant arall
Nid oes angen i chi cael unrhyw gyswllt uniongyrchol gyda’r rhiant arall. Bydd rhaid i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant rhannu peth gwybodaeth gyda nhw, gan gynnwys:
- eich enw
- enw a phenblwydd eich plentyn
- nifer y nosweithiau mae eich plentyn yn aros gyda'r rhiant fydd yn gwneud taliadau - bydd angen i'r rhiant arall gadarnhau hyn
Os byddwch yn cael taliadau cynhaliaeth plant
Gallwn roi eich manylion talu i'r rhiant arall os byddwch yn gofyn i ni wneud hynny. Gallwch ofyn i’ch banc neu gymdeithas adeiladu i sefydlu cyfrif nad yw’n rhoi eich lleoliad.
Os byddwch yn talu cynhaliaeth plant
Byddwn hefyd angen deud wrth y rhiant arall:
- Eich gwybodaeth incwm
- Os oes unrhyw blant eraill wedi’u cynnwys yn y cyfrifiad (ni fyddwn yn rhannu dim o’u manylion personol)